P-04-458: Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau:

 1. Y caiff addysg bellach, ynghyd ag asedau sy’n cael arian cyhoeddus, eu cadw o fewn y sector cyhoeddus.

 2. Y bydd colegau’n parhau i ymrwymo i gytundebau cenedlaethol o ran Addysg Bellach, fel y graddfeydd cyflog cenedlaethol.

 3. Y caiff contract Cymru gyfan ei gyflwyno ar gyfer darlithwyr ym maes Addysg Bellach

 4. Na fydd Gweinidogion Cymru yn diddymu colegau na rhoi’r gallu i golegau drosglwyddo eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i gorff arall.

Prif ddeisebydd: UCU Crosskeys Branch

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  19 Chwefror 2013

Nifer y llofnodion:  246